Polisi Preifatrwydd

Corff Cydweithredol Wrecsam yw perchennog a gweithredydd www.wrexhammusic.com (y “Safwe”).

Corff Cydweithredol Wrecsam Cyf. yw’r rheolwr data, a gellir cysylltu drwy:

 

Pwrpas

Pwrpas y polisi preifatrwydd hwn (y “Polisi Preifatrwydd”) yw hysbysu defnyddwyr ein Safwe o’r canlynol:

  1. Y data personol y byddwn yn ei gasglu;
  2. Defnydd o’r data a gasglwyd;
  3. Pwy sydd â mynediad at y data a gasglwyd;
  4. Hawliau defnyddwyr y Safwe; a
  5. Polisi cwcis y Safwe.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn weithredol yn ychwanegol i delerau ac amodau ein Safwe.

 

RhGDC (GDPR)

I ddefnyddwyr yn yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn dilyn Rheoliad (UE) 2016/679 y Senedd Ewropeaidd a’r Cyngor ar 27 Ebrill 2016, a adwaenir fel y Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (y “RhGDC”). I ddefnyddwyr yn y Deyrnas Gyfunol, rydym yn dilyn y RhGDC a gedwir yn y Ddeddf Gwarchod Data 2018.

 

Caniatâd

Wrth ddefnyddio ein Safwe, mae defnyddwyr yn cytuno eu bod yn derbyn:

  1. Yr amodau a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.

 

Sail Gyfreithiol i Brosesu

Rydym yn casglu a phrosesu data personol am ddefnyddwyr yn yr UE dim ond pan fo gennym sail gyfreithiol i wneud hynny dan Erthygl 6 y RhGDC.

Rydym yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ganlynol i gasglu a phrosesu data defnyddwyr yn yr UE:

  1. Mae prosesu data personol defnyddiwr yn angenrheidiol er mwyn cymryd, ar gais y defnyddiwr, y camau cyn creu cytundeb neu wrth weithredu cytundeb sy’n berthnasol i’r defnyddiwr. Os nad yw’r defnyddiwr yn darparu’r data angenrheidiol i weithredu’r cytundeb mae’r canlyniad fel hyn: ni fydd yn bosibl i ni ddarparu ein gwasanaeth heb dderbyn gwybodaeth ddigonol.

 

Sut yr ydym yn Defnyddio Data Personol

Bydd y data a gesglir ar ein Safwe ddim ond yn cael ei ddefnyddio i’r pwrpasau a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn neu ar dudalennau perthnasol ein Safwe. Ni fyddwn yn defnyddio eich data tu hwnt i’r hyn a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.

 

Gyda Phwy y byddwn yn Rhannu Data Personol

  1. Cyflogai

Gallem ddatgelu data defnyddiwr i unrhyw aelod o’n sefydliad sydd angen mynediad rhesymol at ddata defnyddiwr er mwyn cyflawni’r pwrpasau a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.

  1. Datgeliadau Eraill

Ni fyddwn yn gwerthu neu rannu eich data gyda phersonau eraill, ar wahân i’r achosion canlynol:

  • Os yw’r gyfraith angen hynny;
  • Os oes ei angen ar gyfer unrhyw achos cyfreithiol;
  • I brofi neu warchod ein hawliau cyfreithiol; a
  • I brynwyr neu brynwyr posibl y cwmni hwn pe baem yn dymuno gwerthu’r cwmni.

Os ydych yn dilyn prif gysylltiadau o’n Safwe ni at Safwe arall, nodwch nad ydym ni’n gyfrifol ac nad oes gennym reolaeth dros eu polisïau a’u gweithgareddau hwy.

 

Am ba hyd yr ydym yn Cadw Data Personol

Cedwir data defnyddiwr nes y cwblheir y pwrpas y casglwyd y data ar ei gyfer.

Cewch wybod os bydd eich data yn cael ei gadw’n hwy na’r cyfnod hwnnw.

 

Sut yr ydym yn gwarchod eich Data Personol

Er mwyn gwarchod ein diogelwch, rydym yn defnyddio’r amgryptiad porwr cryfaf posibl ac yn cadw ein holl ddata mewn mannau diogel. Dim ond ein cyflogai all gael mynediad at bob data. Mae ein cyflogai wedi eu hymrwymo gan gytundebau cyfrinachedd llym a byddai torri’r cytundeb hynny yn golygu diswyddo’r cyflogai.

Er ein bod yn cymryd pob rhagofal rhesymol i sicrhau fod data defnyddiwr yn ddiogel a bod defnyddwyr yn cael eu gwarchod, y mae wastad peth risg o niwed. Gall y Rhyngrwyd gyfan fod yn anniogel ar adegau ac felly ni allwn roi gwarant am ddiogelwch data defnyddiwr tu hwnt i’r hyn sydd yn ymarferol resymol.

 

Trosglwyddo Data’n Rhyngwladol

Rydym yn trosglwyddo data personol i’r gwledydd canlynol:

  1. Yr Unol Daleithiau.

Pan fyddwn yn trosglwyddo data personol defnyddiwr, byddwn yn gwarchod y data hynny fel a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn ac yn cydymffurfio ag anghenion cyfreithiol perthnasol ar gyfer trosglwyddo data personol yn rhyngwladol.

Os ydych wedi’ch lleoli yn y Deyrnas Gyfunol neu’r Undeb Ewropeaidd, dim ond dan yr amodau hyn y byddwn yn trosglwyddo eich data personol:

  1. Bod gan y wlad lle trosglwyddir eich data personol iddi y safon gwarchod data a ystyrir yn ddigonol gan y Comisiwn Ewropeaidd neu, os ydych yn y Deyrnas Gyfunol, gan reoliadau digonol y Deyrnas Gyfunol; neu
  2. Ein bod wedi gosod amodau diogelwch digonol perthnasol ar gyfer y trosglwyddiad. Er enghraifft, fod y derbynnydd yn rhan o reolau corfforaethol gorfodol, neu ein bod wedi cytuno ar amodau cytundebol gwarchod data yr UE neu’r Deyrnas Gyfunol gyda’r derbynnydd.

     

    Eich Hawliau fel Defnyddiwr

    O dan y RhGDC, mae gennych yr hawliau canlynol:

    1. Hawl i gael gwybod;
    2. Hawl i fynediad;
    3. Hawl i gywiro;
    4. Hawl i ddileu;
    5. Hawl i gyfyngu’r prosesu;
    6. Hawl i gludadwyedd data; a
    7. Hawl i wrthwynebu.

        Plant

        Nid ydym yn casglu na defnyddio data personol gan blant dan 16 mlwydd oed yn fwriadol. Os ydym yn cael ar ddeall ein bod wedi casglu data personol gan blentyn dan 16 mlwydd oed, bydd y data personol yn cael ei ddileu mor fuan â phosibl. Os yw plentyn dan 16 mlwydd oed wedi rhoi data personol i ni, gall ei r/hiant neu g/warchodwr gysylltu â’n swyddog gwarchod data.

         

        Sut i Gael Mynediad, Addasu, Dileu neu Herio’r Data a Gasglwyd

        Os hoffech wybod a ydym wedi casglu’ch data personol, sut yr ydym wedi defnyddio eich data personol, a ydym wedi datgelu eich data personol ac i bwy yr ydym wedi datgelu eich data personol, os hoffech i’ch data gael ei ddileu neu ei addasu mewn unrhyw ffordd, neu os hoffech ddefnyddio eich hawliau eraill o dan y RhGDC, cysylltwch â’n swyddog gwarchod data yma:

         

        Polisi Cwcis

        Ffeil fechan yw cwci a gedwir ar galedwedd y defnyddiwr gan wefan. Ei phwrpas yw casglu data’n ymwneud ag arferion pori’r defnyddiwr. Gallwch ddewis cael eich hysbysu bob tro y mae cwci’n cael ei throsglwyddo. Gallwch hefyd ddewis anablu cwcis yn llwyr yn eich porwr rhyngrwyd, ond gallai hyn amharu ar safon eich profiad fel defnyddiwr

        Rydym yn defnyddio’r mathau hyn o gwcis ar ein Safwe:

        1. Cwcis Gweithredol
          Defnyddir cwcis gweithredol i gofio’r dewisiadau a wnewch ar ein Safwe er mwyn arbed eich dewisiadau ar gyfer eich ymweliad nesaf.

           

          Newidiadau

          Gellir addasu’r Polisi Preifatrwydd hwn o dro i dro er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith ac i adlewyrchu unrhyw newidiadau i’n proses casglu data. Pan fyddwn yn addasu’r Polisi Preifatrwydd hwn, byddwn yn diweddaru’r “Dyddiad Effeithiol” ar ben y Polisi Preifatrwydd. Rydym yn argymell fod ein defnyddwyr yn adolygu’n Polisi Preifatrwydd yn achlysurol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw ddiweddariad. Os yw’n angenrheidiol, gallem hysbysu defnyddwyr trwy e-bost o’r newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn.

           

          Cwynion

          Os oes gennych unrhyw gwynion am sut yr ydym yn prosesu eich data personol, cysylltwch â ni drwy’r dulliau cyswllt a restrir yn yr adran Gwybodaeth Cysylltu fel y gallwn setlo’r mater pan fo’n bosibl. Os ydych yn teimlo nad ydym wedi delio â’ch pryder mewn modd derbyniol, gallwch gysylltu â’r awdurdod goruchwylio. Mae gennych hefyd yr hawl i yrru cwyn uniongyrchol at yr awdurdod goruchwylio. Gallwch gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwylio trwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

           

          Gwybodaeth Cysylltu

          Os oes gennych unrhyw gwestiwn, bryder neu gŵyn, gallwch gysylltu â’n swyddog gwarchod data, Heather Powell: