Cerdd Cydweithredol Wrecsam

Gweledigaeth newydd am ddarpariaeth cerdd yn Wrecsam

AMDANOM NI

Dull newydd o ddarparu cerdd

Sefydliad llwyddiannus dim-er-elw yn cyflwyno darpariaeth cerdd safonol yn Wrecsam yw Cerdd Cydweithredol Wrecsam.

Rydym yn cynnig dull newydd o ddarparu cerdd ledled y sir, a ni yw’r prif gorff cydweithredol cerdd yng Nghymru.

Gwersi Mewn Ysgol

Rydym yn cyflwyno gwersi cerdd mewn ysgol i ddisgyblion o oedran Ysgol Gynradd i flwyddyn olaf Ysgol Uwchradd ledled y sir.

Ensemblau

Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ensemblau a chorau, yn ystod ysgol ac ar ôl ysgol, gyda chyngherddau blynyddol gan y ddau.

Cyrsiau Lles

Yn ystod yr haf a gwyliau ysgol, rydym yn cynnal ystod eang o gyrsiau cerdd a lles sydd ar gael i holl blant a phobl ifanc gogledd Cymru.

Cafodd ein holl diwtoriaid hyfforddiant diweddaraf COVID-19 ac felly’n darparu gwersi cerdd wyneb-yn-wyneb yn ddiogel.

PARTNERIAID

Mudiadau Cefnogol a Phartneriaid

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth nifer o fudiadau yn cynnwys Undeb y Cerddorion, Canolfan Cydweithredol Cymru, Elusennau’r Tywysog, Sefydliad Andrew Lloyd Webber a Chwmni’r Drapers.

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a holl ysgolion y sir.