Covid-19: Diweddariad i holl Ensemblau CCW

Monday 16th March, 2020

Rydym yn cadw llygad barcud ar ymlediad y feirws COVID-19 ac yn asesu ei effaith ar weithgarwch ein gwasanaeth cerdd.

Ar sail yr wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael, rydym yn rhoi’r gorau i bob addysgu teithiol mewn ysgolion o ddydd Llun, Mawrth 23ain, 2020 – a byddwn yn rhoi’r gorau i holl ymarferion ensembl gan ddechrau ddydd Llun, Mawrth 16eg, 2020.

Gan fod y sefyllfa’n datblygu, rhaid i ni ofalu am iechyd a gofal ein disgyblion, aelodau a staff, ac felly byddwn yn dal i asesu y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth y DG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i effaith ar ein gwasanaeth cerdd.

Cofiwch y bydd ein gwersi’n ailddechrau mor fuan Ă¢ phosibl, a’n bod yn bwriadu cynnal pob ymweliad a drefnwyd cyn diwedd tymor yr haf.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach ar ein gwefan.

Heather Powell

Pennaeth Gwasanaeth

Mark Young

Cadeirydd